Wy/cy/Cymru

< Wy‎ | cy
Wy > cy > Cymru

Mae Cymru yn wlad Geltaidd ble mae'r Gymraeg a thraddodiadau unigryw a hynafol yn dal yn fyw. Gyda'r wy/cy/Alban, wy/cy/Cernyw, wy/cy/Gogledd Iwerddon a wy/cy/Lloegr, mae Cymru'n un o wledydd Prydain ac yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Lloegr i'r dwyrain, wy/cy/Môr Hafren a wy/cy/Môr Iwerydd i'r gogledd a'r gorllewin. Cymru yw tywysogaeth fwyaf y byd, ond bellach nid yw'r term "tywysogaeth" yn cael ei defnyddio'n aml i'w disgrifio, gan mai term y goresgynwyr ydyw. wy/cy/Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ac fe'i siaredir gan oddeutu 24% o'i dinasyddion.

"Dacw'r Wyddfa a'i chriw..." (T.H. Parry-Williams)

Mae'n eitha amrywiol o ran ei daearyddiath gyda chreigiau geirwon mynyddoedd wy/cy/Eryri yn y Gogledd a dyffrynyddoedd a bryniau ffrwythlon yng ngweddill y wlad. I'r ymwelydd mae yma ddigon o bethau i'w gwneud yn ogystal a cherdded Llwybr Clawdd Offa a Llwybr yr arfordir.

Rhanbarthau
wy/cy/Gogledd Cymru
Ceir sawl tref wyliau glan y môr ar hyd yr arfordir, ond ardal wledig yw hi'n bennaf a chadarnle'r Gymraeg. Yma hefyd saif mynyddoedd uchaf Cymru a Lloegr.
wy/cy/Y Canolbarth
Ardal wledig iawn a'r boblogaeth wedi'i thaenu'n denau yma ac acw. Mae yma ddyffrynoedd, mynyddoedd, rhostiroedd a fforestydd ac arfordir dwyreiniol Bae Ceredigion yn wynebu Iwerddon.
wy/cy/South Wales
Dyma ble mae'r boblogaeth fwyaf: dau draean o holl boblogaeth Cymru, yn enwedig y rhan ddwyreiniol. Digon gwledig ydy'r ochr orllewinol - ardal Penfro ble ceir golygfeydd godidocaf y de.

Llwybr yr Arfordir edit

Yn uno'r dair rhanbarth, ac yn wir Cymru gyfan, mae Llwybr yr Arfordir a agorwyd yn swyddogol yn 2012. Ynghyd a Llwybr Clawdd Offa, cyfrifir Cymru fel yr unig wlad sydd a llwybr safonol yn ei hamgylchynnu!

Trefi a dinasoedd edit

 
Bae Caerdydd un hwyrddydd haf...

Dyma trawsdoriad o drefi amrywiol:

Mannau eraill edit


wy/cy/Category:Gwledydd Prydain